Busnes pawb: Dull o atal hunanladdiad ar sail poblogaeth
Faint ohonon ni a fyddai’n cerdded heibio i rywun sy’n cael trafferth mewn afon, gan ddweud nad ydy hynny ddim yn fusnes iddynt? Ond pan ddaw rhywun i feddwl am hunanladdiad, gall pobl fod yn amharod i ymyrryd. Gall hyn fod oherwydd ofn gwneud pethau’n waeth, methu gwybod beth i’w wneud, teimlo mai cyfrifoldeb rhywun arall yw hyn, hyd yn oed y gred gyfeiliornus y byddai’n wastraff amser ymyrryd am fod rhywun yn benderfynol o farw.
Dengys ymchwil fod dull o atal hunanladdiad ar sail poblogaeth gyda “phorthorion” hyfforddedig mewn gwasanaethau rheng flaen ac yn y gymuned yn meddu ar botensial ymyriad cynnar ac effeithiol. Roedd y dull hwn yn ganolog i’r Cynllun Gweithredu Cenedlaethol Lleihau Hunanladdiad a Hunan-niwed i Gymru.
Nodau
Ein nod yw lleihau cyfraddau hunanladdiad ar draws Cymru a hybu iechyd meddwl trwy leddfu’r gofid meddwl a brofir gan bobl sy’n meddwl am hunanladdiad.
- Trwy ymgyrchoedd estyn allan byddwn yn cynyddu gwybodaeth am ble i droi am help.
- Trwy herio gwarth a chodi ymwybyddiaeth byddwn yn ei gwneud yn haws i bobl siarad yn agored am hunanladdiad a cheisio help.
- Trwy ddarparu rhaglenni hyfforddi mewn cymunedau byddwn yn goresgyn rhwystrau ac yn ychwanegu at nifer y bobl sydd â’r sgiliau a’r hyder i helpu pobl mewn gofid.


